The complete gallery of all my original oil paintings.
The complete gallery of all my original oil paintings.
The complete gallery of all my original oil paintings.

amdanaf fi
Er mwyn ceisio gwireddu fy mreuddwyd o gael gyrfa fel gôl-geidwad proffesiynol, gadewais yr ysgol a 'nghartref yn Nyffryn Nantlle yn 16 mlwydd oed ac arwyddo fy nghytundeb proffesiynol cyntaf gyda chlwb Crewe Alexandra.
​
Yna, yn un ar hugain mlwydd oed ymunais â Stockport County gan sefydlu fy hun yn brif-golwr a chynrychioli'r clwb 82 o weithiau.
Cefais gyfnodau gyda chlybiau Bury a Rochdale. Treuliais bedwar tymor gyda Tranmere Rovers gan wneud 161 o ymddangosiadau i'r tîm cyntaf.
​
Yn fy ngyrfa broffesiynol dwi wedi bod yn lwcus i gynrychioli Cymru ym mhob oedran. Ond ar 13eg o Dachwedd 2015 daeth fy mreuddwyd oes a'n uchelgais i'n wir, cefais fynd rhwng y pyst am y tro cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Iseldiroedd.
​
Pleser mawr i mi erioed yw arlunio, o beintio a chynllunio fy menig goli tra'n blentyn i bethau mwy cymhleth wrth dyfu fyny. Wrth beintio dwi'n cael mynd i fy myd bach fy hun a dianc o'r straen a'r gofynion o fod yn beldroediwr.
Ysbrydolwyd fi'n bennaf gan fy Nhaid a weithiodd gyda balchhder yn chwareli llechi Dyffryn Nantlle. A thrwy beintio rwyn gallu portreadu yr hanes, y diwydiant a'r bond brawdoliaeth rhwng y pobl yn Nyffryn Nantlle a'r Cymry.
Diolch i chi am eich cefnogaeth ar y cae ac ar y cynfas.
Diolch, Owain










