top of page
0aadf743-fa95-43e8-909a-efccc76bfa5d.heic

AMDANAF | BIOGRAPHY

-methode-sundaytimes-prod-web-bin-73f39236-a562-11e9-95c3-8511e62f8ecb.jpg

Fel cyn-Gôl-geidwad Rhyngwladol Cymru ac erbyn hyn yn hyfforddwr proffesiynol, mae creu celf yn fy ngalluogi i fynegi fy hun mewn ffordd hollol wahanol. 

Mae pob darlun yn cynrychioli estyniad o fy hun, a phob strôc brwsh yn cyfrannu at fy nghynnyrch terfynol. Pob llun yn cyfleu eiliad mewn amser, â phêl-droed a fy ngwreiddiau Cymreig yn themâu sy'n codi dro ar ôl tro. 

Boed hynny ar y cae neu ar y cynfas, fy nod bob amser yw creu rhywbeth gwirioneddol arbennig gyda’r un ymroddiad a disgyblaeth yn fy ngwaith celf a fy ngyrfa athletaidd.  

Rwy’n gyn Gôl-geidwad Rhyngwladol Cymru, wedi chwarae dros 500 o gemau proffesiynol ar draws Lloegr, yr Alban ac UDA.

Yn sicr, yr amser mwyaf cofiadwy yn fy ngyrfa oedd bod yn rhan o garfan Cymru a gyrhaeddodd rownd gyn derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc

Mae rhai o fy mhaentiadau i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rwyf wedi bod yn westai ar BBC, S4C, Sky Sports, Radio Cymru a Radio Scotland yn ogystal ag erthyglau yn The Guardian, The Times a’r Daily Post. 

As an ex Wales International Goalkeeper and professional athlete, creating art allows me to express myself in a completely different way. Each piece represents an extension of myself, as every brush stroke contributes to the final product. I put the same level of dedication and discipline into my artwork as I do in my athletic career. Each piece captures a moment in time, with football my welsh heritage being one of my recurring themes. Be it on the pitch or on the canvas, my aim is to always create something truly special. 

I have played over 500 professional games across England, Scotland and the USA. With my most memorable time of my career being part of the 23 man squad at the Euro 2016. We reached the semi final, and it is a memory I will always cherish. 

Some of my work can be viewed at the National Library of Wales. My work has also been featured in BBC, S4C, Sky Sports, BBC Radio, The Guardian, The Times, The Daily post and The Inverness Courier. 

bottom of page